1. Pan yn cyrraedd yr adeilad rhaid i’r llogwr nodi safleoedd y larymau, diffoddwyr ac allanfeydd tân. Dylid cadw’r allanfeydd tân yn glir pob amser.
2. Ni chaniateir ysmygu yn yr adeilad. Cyfrifoldeb y llogwr yw sicrhau bod pawb yn cadw at y rheol hon.
3. Ni chaniateir diodydd alcohol o unrhyw fath yn y Neuadd heb ganiatad y Pwyllgor Rheoli.
4. Pan yn llogi’r Neuadd dylech sicrhau bod amser gennych i baratoi a chlirio’r adeilad.
5. Rhaid i’r sawl sy’n trefnu llogi’r Neuadd fod dros 18 oed.
6. Os trefnir gweithgareddau gyda phlant, mae angen sicrhau digon o oedolion er mwyn eu goruchwylio.
7. Mae angen caniatad y Pwyllgor Rheoli os oes bwriad i osod offer fel ‘castell neidio’ yn y Neuadd.
8. Y llogwr sy’n gyfrifol am gyflenwi sachau sbwriel, cadachau golchi a sychu llestri.
9. Nid yw’r Pwyllgor Rheoli yn cymryd cyfrifoldeb am offer na nwyddau personol sydd yn cael eu gadael yn y Neuadd.
10. Dylid cymryd gofal arbennig o’r llawr. Dylai dodrefn ac offer trymion gael eu cario ac nid eu llusgo dros y llawr. Os collir hylif o unrhyw fath ar y llawr dylid sicrhau ei fod yn cael ei sychu ar unwaith.
11. Rhaid ysgubo’r lloriau’n lân a rhoi pob sbwriel yn y biniau priodol ar ddiwedd pob sesiwn a sicrhau bod y gegin a’r llestri’n lân os defnyddir nhw.
12. Dylid gadael yr holl gyfleuterau’n lân ac yn eu cyflwr gwreiddiol. Bydd y llogwr/llogwyr yn gyfrifol am ad-dalu unrhyw ddifrod a achosir.
13. Dylid hysbysu’r Pwyllgor Rheoli ynglŷn ag unrhyw ddifrod neu ddiffyg i unrhyw offer.
14. Dylid hysbysu’r Pwyllgor Rheoli os digwydd damwain yn y Neuadd.
15. Dylai pawb sydd yn llogi’r neuadd fod yn ymwybodol a chytuno gyda Polisi Amgylcheddol y Neuadd a bydd eu gweithgareddau yn cydymffurfio.
16. Dylai llogwyr gadarnhau eu bod ymwybodol a chydymffurfio gyda Pholisi’r Neuadd i amddiffyn plant ac oedolion bregus.
Eithriadau ac addasiadau i’r Amodau
Mae gan Bwyllgor Rheoli’r Neuadd hawl i wneud eithriadau i unrhyw ran o’r rheolau hyn ac i addasu’r Rheolau ac Amodau o bryd i’w gilydd.