Amdanom Ni

Mae’r Neuadd yn Elusen Gofrestredig ac yn eiddo i’r gymuned, yn cael ei rhedeg gan bwyllgor o ymddiriedolwr, aelodau etholedig, aelodau fel cynrychiolwyr a gwirfoddolwyr ac mae unrhyw elw er budd y Neuadd.

Mae’r Neuadd yn ychwanegu at safon byw yn y gymuned ac yn cynnig cyfleoedd cymdeithasol, diwylliannol ac adloniant. Mae yn cynnal cysylltiadau gyda’r gymuned ac yn cefnogi cymdeithasau i weithio mewn partneriaeth.

Mae’r Neuadd yn adeilad yng nghanol pentref Llanddarog i weithgareddau yn y gymuned, i’w rhentu am bris rhesymol i gymdeithasau ac i bartïon. Mae’r brif ystafell o faint 18m x 7m gyda digon o le i 100 o bobl i fwyta . Yn ychwanegol mae ystafell bwyllgora a chegin. Mae’r Neuadd yn gyfleus i’r ffordd ddeuol A48 o Gaerfyrddin i Cross Hands gyda digon o le i barcio ceir.

Mae pentref Llanddarog yn enwog am adeiladau hanesyddol fel Eglwys St Twrog, tafarn yr Hydd Gwyn gyda’i thô gwellt a thafarn y Butchers yn yr ardal gyda statws cadwraethol. Enilliwyd y wobr Pentref Taclusaf yn 1961, 1971 – 73, 1986 a 1987 ac hefyd Pentref Calor y Flwyddyn yn 2002 am ddiwylliant a chafwyd ymweliad gan Dywsog Cymru yn 2003,

Ymysg y defnyddiwyr rheolaidd y Neuadd mae:-

Clwb Ffermwyr Ieuainc Llanddarog

Clwb Bowlio Mat Byr Llanddarog

Pwyllgor Sioe Llanddarog a’r Cylch

Cangen Merched y Wawr, Llanddarog

Sefydliad y Merched, Llanddarog

Eglwys St Twrog

Capel Newydd

Côr Llanddarog

Ymysg defnyddiwr eraill mae pwyllgorau’r Cyngor Cymuned, Rhanbarth Myrddin o Ferched Y Wawr, cwmni contrctwyr Alun Griffiths a nifer o bartion plant.

Gyda gobaith o grantiau ychwanegol y gallwn adeiladu neuadd newydd gyda chyfleusterau modern i ddenu mwy o ddefnyddiwyr yn darparu gweithgaredd ychwanegol a gwahanol i’r gymuned.